Lli o ddagrau yw’r llanw heno.
Môr o gariad yn torri’n don ar draeth – hiraeth.
Perlau hallt ar ruddiau’r wawr,
a’th drysor di –
yn aber y byd mawr.
Fory, bydd fy nith yn gadael y nyth dros dro, i astudio yn Aberystwyth. Cyfnod cyffrous iawn yn ei hanes - mae hwn i Heulwen, fy chwaer.